top of page
  • Facebook
  • Twitter
tictoc-104.jpg
tictoc-092 COL CROP.jpg

© Delweddau Kirsten McTernan Photography

Medley

Sefydlwyd Parama 2 er mwyn datblygu ysgrifennu creadigol gan fenywod hÅ·n yn y Gymraeg a’r Saesneg ac i hyrwyddo gweithdai perfformio yn y gymuned gyda phwyslais ar sgiliau theatr. Un o brif amcanion y cwmni yw cynhyrchu a theithio theatr broffesiynnol gan fenywod am fenywod. Gyda hyn mewn golwg bu’r ymarferwyr theatr llawrydd a’r hen gyfeillion Valmai Jones a Catrin Edwards, yn cydweithio gydag actorion, cerddorion, technegwyr ac eraill i greu, ymarfer a theithio ein sioe gerddorol Tic Toc, i ganolfannau a chymunedau ar draws Cymru.

Llinell amser Parama 2

2016

Sefydlu’r cwmni i hyrwyddo ysgrifennu gan fenywod yn y theatr ac i osod menywod hÅ·n ar ganol y llwyfan. Gweithdai sgriptio a pherfformio Making it/Making it Live!

2017

Mae Parama 2 yn derbyn nawdd ar gyfer Cofio / Remember  - gweithdy scriptio ar gyfer menywod hÅ·n wedi’i gynnal yn ystod Gŵyl y Gwanwyn Age Cymru 2017.

 

Derbyn grant ar gyfer prosiect ymchwil a datblygu y sioe gerddorol Tic Toc.

2019

Derbyn grant i gynhyrchu a pherfformio’r sioe a mynd ar daith fer.

Hydref 30ain
Tic Toc yn agor yn Chapter Caerdydd gyda derbyniad gwresog…

Tachwedd 4ydd
…a mynd ar daith am wythnos…


Mae’r sioe yn Theatr Ffwrnes Llanelli yn cynnwys ymddangosiad gan Ddawnswyr Tê Porthcawl!

Tachwedd 8fed
Noson ola gynta!

tictoc-296 SML.jpg

2022

2023

Ar ôl dinistr Covid mae Parama 2 yn derbyn grant i orffen beth ddechreuwyd… taith ledled Cymru…

Chwefror 6ed
Wythnos gyntaf ymarferion… Criw llwyfan newydd sbon… Band newydd sbon… ac Edna newydd sbon…

Chwefror 23ain
Mae Tic Toc yn agor yn Chapter… a mynd ar daith.

bottom of page