top of page
tictoc-002 ALT.jpg
Down the shed

ADOLYGIAD
Theatr y Torch, Aberdaugleddau
Mawrth 23ain 2023

Cyflwynodd y sioe gerdd Tic Toc a deithiodd dair theatr ar ddeg ledled Cymru, ddarlun hiraethus, hwyliog a llawen, yn llawn ynni a gwaith tîm. Ar yr un pryd cynigiodd y sioe gyfle i adlewyrchu o ddifri ar gyfnod pwysig yn hanes menywod Cymru i gynulleidfa eang. Ar ei thaith rhwng 23 Chwefror a 25 Mawrth 2023 cyrhaeddodd y sioe gynulleidfa o bron 2000.

Cyd-destun hanesyddol i sioe oedd cyfnod o ddirywiad diwydiannol graddol. Mae stori Tic Toc yn canolbwyntio ar hanes un cymeriad a alltudiwyd am gyfnod am wrthod mynd ar streic, ochr yn ochr â’i ‘chwiorydd’ yn y ffatri. Chafodd hi mo’i gwahodd i aduniad y gweithwyr. Mae’r sioe yn amlygu’r tensiynau a phenderfyniad y gweithwyr yn ogystal â’r pwysau oedd ar fenywod i gynnal eu teuluoedd trwy fynd allan i weithio. Ymatebodd y menywod trwy gynnal eu cyfeillgarwch â’i gilydd, ac amlygir hyn yn huawdl yn y sgript.

O safbwynt AMC WAW cyflwynodd y sioe ddarlun arbennig iawn o dalent a menter eithriadol gan aelodau ein pwyllgor ac eraill. Mae ein gwaith tîm tawel a phenderfynol mor llawn hwyl â Tic Toc. Fel mudiad elusennol, wedi ei redeg gan wirfoddolwyr, mae ein pwyllgor a’i gysylltiadau yn cynrychioli ffynhonnell o sgiliau ac arbenigeddau. Mae Tic Toc yn amlygu cyfraniad enfawr Catrin Edwards, aelod o bwyllgor AMC WAW a chynhyrchydd, cyfarwyddwraig a chyfansoddwraig ar gyfer y teledu a’r theatr, a hi oedd yn gyfrifol am gyfansoddi’r caneuon a chyfarwyddo’r gerddoriaeth. Ysgrifennwyd y sgript ar gyfer y sioe ddwyieithog gan Valmai Jones, actor, awdur a chyfarwyddwraig a chanddi 40 mlynedd o brofiad theatrig, ynghyd â’i hargyhoeddiad bod darnau theatrig newydd yn hanfodol i ddatblygu’r theatr yng Nghymru.

Mae’r sioe gerdd yn seiliedig ar gyfweliadau hanes llafar o brosiect Archif Menywod Cymru ‘Lleisiau o Lawr y Ffatri/Voices from the Factory Floor’, prosiect a recordiodd atgofion 200 o fenywod ffatri fu’n gweithio ledled Cymru. Os ydy’r sioe wedi eich ysbrydoli i ail-ymgolli ym manylion y prosiect, gair i’ch atgoffa bod yr hanesion unigol wedi eu crisialu gan Catrin Stevens yn y llyfr: Voices from the Factory Floor, Gwasg Amberley, 2017.

Gobeithio y bydd yr erthygl hon yn sbardun i chi ail-ymweld â’r wefan www.factorywomensvoices.wales. Diolchwn i bawb fu ynglÅ·n â’r sioe – y gweithwyr, y gwirfoddolwyr a’r menywod ffatri a gyfwelwyd ac a fu’n rhan o brosiect hanes llafar gwreiddiol ‘Lleisiau o Lawr y Ffatri/‘Voices from the Factory Floor’, cast proffesiynol Parama 2, y cerddorion a’r criw ac wrth i’r llenni ddod i lawr ar sioe olaf Tic Toc yn Neuadd Les Ystradgynlais – am eu hymroddiad i ddiogelu a rhannu hanes menywod.


© Alison Elliott, Ebrill 2023

Adolygiad Jen Wilson

Dyma gynhyrchiad hollol ysblennydd o’r sioe gerdd Tic Toc, a fwynhawyd gan gynulleidfa lawn yn y Neuadd Les, Ystradgynlais ar yr 8fed Tachwedd. Cafodd Gail Allen a minnau ein syfrdanu ganddi. Teimlem ei fod yn gyffrous, yn procio’r meddwl, yn gynnes, teimladwy a beiddgar ac roedd y modd y gwëwyd y darnau dwyieithog i’r testun, gan helpu’r rhai heb unrhyw neu ddim ond ychydig o Gymraeg yn effeithiol iawn. Y thema oedd hanes chwe menyw ar aduniad ffatri – gyda’i holl bosibiliadau … chwerthin, dagrau, sgandalau, ffraeo, cwmnïaeth, gwrthdaro gweithwyr/bos a chyrraedd oed pensiwn; y cyfan wedi ei berfformio i ddetholiad gwych o gerddoriaeth o’r 60egau gan fand byw gyda chyfansoddiadau gan Catrin Edwards ar gitâr, Ann Hopcyn ar y piano a Luke Adams gitarau.

 

Roedd cyffro byd cerdd y 60egau yn ffrwydro oddi ar y llwyfan, a’r caneuon hyfryd yn dod â lwmp i’r gwddf fel y dylai atgofion … tra’n synfyfyrio "wnaethon ni’r peth iawn bryd hynny?" Gallem ni glywed aelodau yn y gynulleidfa yn sibrwd pethau fel "W, dwi’n cofio hynna" neu’n cael ambell snwffiad. Gobeithio y bydd y cynhyrchiad hwn yn mynd allan ar daith genedlaethol. Pam lai! Mae digon o gynyrchiadau Saesneg yn dod dros y bont. Dydy Cymru fyth yn gweiddi digon am ei thalentau. Mae’r Albanwyr a’r Gwyddelod yn well am wneud sŵn na ni.

 

Mae’n bryd i Gymru a TIC TOC ffrwydro ar led!Mae’r sioe a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Valmai Jones wedi ei seilio ar brosiect AMC ‘Lleisiau o Lawr y Ffatri’.​

​

Archif Menywod Cymru / Women’s Archive of Wales, Archifau Richard Burton, Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP

bottom of page