Mae Tic Toc yn stori gerddorol am grŵp o ffrindiau agos oedd yn
gweithio gyda’i gilydd mewn ffatri. Bu’r criw yn canu, chwerthin a dawnsio gyda’i gilydd, yn profi cryfder eu cyfeillgarwch tra bod y byd o’u cwmpas yn newid. Yna daeth rhwyg i amharu ar eu cyfeillgarwch. A nawr mae aduniad wedi’i drefnu... ond mae un ohonynt heb dderbyn gwahoddiad! Mae Tic Toc yn talu teyrnged i fenywod y ffatri mewn sioe sydd wedi’i seilio ar eu straeon a’u hatgofion. Ymunwch â nhw i ail-fyw’r gorffennol wrth iddynt ddod at ei gilydd i ail-greu’r amseroedd da a’u hieuenctid!
Mae Tic Toc yn talu teyrneged i gryfder arwrol ac asbri menywod y ffatri, ein mamau a’n neiniau, mewn sioe sy’n dathlu eu bywydau a sydd wedi’i seilio ar eu straeon a’u hatgofion a gasglwyd gan Archif Menywod Cymru ar gyfer y prosiect hanes llafar Lleisiau o Lawr y Ffatri. Cludir y gynulleidfa gan gast cryf o rai o’n hoff actorion i ffatri rhywle yng Nghymru yn ystod 60au a’r 70au’r ganrif ddiwethaf mewn sioe gerdd hwyliog ynglÅ·n a brwydr menywod y ffatri dros gyfiawnder a chydraddoldeb.
Cast a’r Cwmni – Taith 2023
Sgript a Chyfarwyddo: Valmai Jones
Caneuon a Chyfarwyddo Cerdd: Catrin Edwards
Cyfarwyddo Symud: Siân Williams
ANN
Gillian Elisa
Billy Elliot West End, Alys S4C, Stella Sky TV
EDNA
Carys Gwilym
Rybish S4C, Nyrsys Theatr Genedlaethol, Bankrupt Bride Theatr na nÓg
CERI
Clare Hingott
Tourist Trap, The Indian Doctor BBC Cymru, Stella Sky TV
APPALONIA
Olwen Rees
Stella Sky TV, 35 Diwrnod S4C, The Lifeboat, Jack of Hearts BBC
MAVIS
Lowri-Ann Richards
Alter ego LaLa Shockette, Pobl y Cwm BBC, Rownd a Rownd S4C
ROSE
Mary-Anne Roberts
Gwaith theatr arbrofol yn Chapter, aelod o band gwerin Bragod
BAND
CRIW AR DAITH
GUITAR
Dan Lawrence
ALLWEDDELLAU
Osian Gwynedd
GUITAR
Catrin Edwards
RHEOLI LLWYFAN
Carys-Haf Williams
PEIRIANNU SAIN
Rob Reed, Ed Townend
AIL OLEUO
Luca Davies
CYNLLUN SET
Dave Atkins
CYNLLUN GOLEUO
Cara Hood
CYNLLUN GWISGOEDD
Edwina Williams-Jones
CYNLLUN GRAFFEG
Andy Dark
GWEFAN
Martin Williams
FFOTOGRAFFIAETH
Kirsten McTernan
www.kirstenmcternan.co.uk
FIDEO/GOLYGU
Tash Horton
CYNHYRCHU
Catrin Edwards, Sioned Huws, Cathy Boyce
MARCHNATA
Angharad Davies
AMD Communications Ltd
e: angharadcomms@gmail.com